Gwneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd sy’n diffinio ble mae pobl yn byw.
Datblygwyd y wefan hon fel rhan o raglen 5 mlynedd newydd, Sustainable Food Places fydd hefyd yn cynnwys gwaith arwyddocaol newydd ym mhob un o'r gwledydd datganoledig. Bydd y ffrydiau gwaith hyn, fydd yn cynnwys addasu ac ymestyn y model SFP i amgylchiadau lleol a sefydlu strwythurau llywodraethu gwledydd datganoledig, yn cael eu datblygu dros y misoedd i ddod a byddant yn cynnwys datblygu cynnwys sy'n benodol i wledydd ar y wefan hon.
Sustainable Food Places (Sustainable Food Cities yn flaenorol) yw un o’r mudiadau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf heddiw. Mae ein Rhwydwaith yn dod â phartneriaethau bwyd arloesol ynghyd o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, ardaloedd a siroedd ar draws y DU sydd yn ysgogi arloesi ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.
Mae Sustainable Food Places yn rhaglen bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan y Soil Association, Food Matters a Sustain: y cynghrair ar gyfer bwyd a ffermio gwell. Caiff ei ariannu gan yr Esmée Fairbairn Foundation a The National Lottery Community Fund.
Ein cred yw bod angen polisi cenedlaethol cryf a gweithredu cydweithredol rhwng gwneuthurwyr polisïau, busnesau a chymdeithas sifil ar lefel leol er mwyn trawsnewid i system fwyd iach, cynaliadwy a thecach.
Ers 2013, rydym wedi helpu mannau ar draws y DU:
O ordewdra a salwch sy’n ymwneud â deiet i dlodi bwyd a gwastraff, newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth i ostyngiad mewn ffyniant ac anhrefn cymdeithasol, ein cred yw bod bwyd yn greiddiol i rai o’n problemau pennaf a’i fod hefyd yn rhan hanfodol o’r ateb.
Oherwydd cymhlethdod a chydgysylltiad y materion hyn, rydym yn hybu ymagwedd systemau sydd yn cynnwys ac yn cysylltu cyfranwyr allweddol ar bob lefel ac ar draws pob rhan o’r system fwyd. Caiff yr ymagwedd hon ei chrynhoi yn chwe ‘mater allweddol’ ein fframwaith ar gyfer gweithredu:
Credwn y gall partneriaethau bwyd ysgogi newid sylfaenol yn niwylliant bwyd lleol a’r system fwyd leol a dod yn hyb i fudiad bwyd da yn cynnwys dinasyddion gweithgar ac ymgysylltiedig.
Rydym yn darparu grantiau, cyngor a chymorth i alluogi partneriaethau bwyd lleol i ysgogi newidiadau i bolisïau ac ymarfer lleol a chynnal ymgyrchoedd, prosiectau ymarferol a mentrau ymgysylltu’r cyhoedd.
Fel aelodau o Rwydwaith Sustainable Food Places, mae partneriaethau wedi ymrwymo i rannu’r hyn y maent yn ei ddysgu a’u harbenigedd fel rhan o gymuned o arfer da sy’n esblygu. Rydym hefyd wedi creu cynllun gwobrwyo cenedlaethol, yn seiliedig ar y fframwaith ar gyfer gweithredu, sydd yn meincnodi, ysgogi ac yn cydnabod cyflawniad.
Mae Sustainable Food Places yn gweithio’n agos gyda’i aelod-bartneriaethau bwyd i ysgogi newid i system fwyd iach a chynaliadwy. Ein nod yw cysylltu a chefnogi pob ymdrech – p’un ai ar lefel unigol neu sefydliadol – i wella bywydau pobl a lleihau ein heffaith ar y blaned trwy fwyd. Mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan:
Fel rhan o linyn gwaith Addasu ac Ymestyn ein rhaglen Cam 3 gyfredol, rydym yn cynnig nifer fach o grantiau datblygu i leoedd sydd â diddordeb mewn, neu sydd eisoes wedi dechrau datblygu, partneriaeth fwyd ar lefel sirol yn Lloegr neu ar draws ardal awdurdod lleol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. I gael manylion llawn am y meini prawf ffocws a chymhwyster ar gyfer y grantiau hyn, lawr lwythwch y cais yma. Am wybodaeth bellach, neu i drafod darpar gais, cysylltwch ag aelod perthnasol o staff yr SFP trwy'r manylion cyswllt sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen.
Gallwch ganfod sut i ddod â phartneriaeth bwyd lleol ynghyd a dechrau meddwl yn nhermau systemau bwyd a gweithredu yn eich ardal chi. [link to ‘Become a member’ page in Welsh]
Gallwch dderbyn ein cylchlythyr misol, ymuno â’n grŵp trafod SFC ar e-bost, dilyn ni ar Twitter a thanysgrifio i’n sianel YouTube (yn Saesneg).